
Clwb Bright Sparks
Mae Clwb Bright Sparks yn grŵp cyfranogi ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed sy’n derbyn gofal neu sydd â phrofiad o ofal yng Nghaerdydd. Gallwn gynnig y canlynol i chi:
- cyngor ac arweiniad o ran ble i gael gafael ar gymorth, a
- llwyfan i ddweud eich dweud.
I wneud hyn, mae’r clwb:
- yn trefnu cyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ar-lein,
- yn trafod pethau sy’n bwysig i bob unigolyn,
- yn cynnig llawer o weithgareddau difyr am ddim, ac
- mae’n amgylchedd diogel a chefnogol a arweinir gan bobl ifanc, i bobl ifanc.
Mae’r clwb yn cyfarfod yn rheolaidd ar-lein ac yn Hyb y Llyfrgell Ganolog. I ddysgu mwy am y clwb neu i ddod draw, gallwch:
- ffonio 079 7486 4387, neu
- ebostio lucy.thomas2@caerdydd.gov.uk.
Categorised in:
This post was written by cardiffyouths