×

Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith: Y Tîm Ieuenctid

Young carers

Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith: Y Tîm Ieuenctid

May 15, 2025 5:47 pm Published by

Gall y Tîm Ieuenctid yn ein Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith ddarparu mentoriaid i gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed. Gallant helpu gyda mynd i mewn i:   

  • addysg,    
  • cyflogaeth,   
  • rolau gwirfoddol, neu   
  • hyfforddiant.    

Gall y tîm hefyd helpu i dalu rhai costau yr eir iddynt wrth ddod o hyd i swydd neu hyfforddiant. Er enghraifft, talu am   

  • docynnau bws,   
  • dillad ar gyfer cyfweliadau, neu  
  • gyrsiau hyfforddi penodol.   

Mae hyn trwy’r Gronfa Rhwystrau, sy’n amodol ar gymhwysedd. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Gwasanaeth i Mewn i Waith. 

Ar ôl i fentor gael ei neilltuo i chi, gallant gwrdd â chi yn agos at ble rydych chi’n byw a’ch helpu i osod eich nodau. Gallant weithio gyda chi i helpu i gyflawni’r rhain mewn nifer o ffyrdd:  

Addysg    

Gall y tîm eich helpu i archwilio’ch opsiynau a gwneud cais am ddysgu pellach, fel:   

  • cyrsiau,  
  • coleg, neu   
  • brifysgol.   

Cyflogaeth  

Gall y tîm eich helpu i:  

  • ddod o hyd i swyddi a gwneud cais amdanynt,   
  • diweddaru eich CV, a   
  • gweithio ar eich sgiliau cyfweld.   

Hyfforddiant   

Os oes angen hyfforddiant penodol arnoch ar gyfer math o swydd, gall y tîm eich helpu i ddysgu a datblygu eich sgiliau. Er enghraifft, gallai hyn eich helpu i fod yn gymwys ar gyfer swyddi lle mae angen arnoch:   

  • Gerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) i weithio ym maes adeiladu, neu    
  • Cerdyn Diogelwch Personol ar y Rheilfordd (PTS) i weithio ar y rheilffyrdd.  

Os ydych chi’n unigolyn sy’n gadael gofal, efallai y bydd mentoriaid ieuenctid y tîm yn gallu gweithio gyda chi i gael mynediad at raglenni fel Cynllun Hyfforddeiaeth Dechrau Disglair.   

Sut i gael cymorth   

Mae Tîm Ieuenctid y Gwasanaeth i Mewn i Waith yn ymweld â gwahanol ardaloedd o Gaerdydd ar ddiwrnodau penodol, o:  

  • Hybiau,   
  • Canolfannau Gwaith, a  
  • Prosiectau Lletyau â Chymorth.   
      

Darllenwch ragor am y gwasanaeth ar wefan y Gwasanaeth i Mewn i Waith neu ewch i’ch Hyb lleol am ragor o wybodaeth. 

Share this with others

Categorised in:

This post was written by cardiffyouths

Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae Polisi Preifatrwydd ac Amodau Gwasanaeth Google yn berthnasol.

© Youth Hub 2025 - Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi CwcisPolisi Preifatrwydd