
Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith: Y Tîm Ieuenctid
Gall y Tîm Ieuenctid yn ein Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith ddarparu mentoriaid i gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed. Gallant helpu gyda mynd i mewn i:
- addysg,
- cyflogaeth,
- rolau gwirfoddol, neu
- hyfforddiant.
Gall y tîm hefyd helpu i dalu rhai costau yr eir iddynt wrth ddod o hyd i swydd neu hyfforddiant. Er enghraifft, talu am
- docynnau bws,
- dillad ar gyfer cyfweliadau, neu
- gyrsiau hyfforddi penodol.
Mae hyn trwy’r Gronfa Rhwystrau, sy’n amodol ar gymhwysedd. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Gwasanaeth i Mewn i Waith.
Ar ôl i fentor gael ei neilltuo i chi, gallant gwrdd â chi yn agos at ble rydych chi’n byw a’ch helpu i osod eich nodau. Gallant weithio gyda chi i helpu i gyflawni’r rhain mewn nifer o ffyrdd:
Addysg
Gall y tîm eich helpu i archwilio’ch opsiynau a gwneud cais am ddysgu pellach, fel:
- cyrsiau,
- coleg, neu
- brifysgol.
Cyflogaeth
Gall y tîm eich helpu i:
- ddod o hyd i swyddi a gwneud cais amdanynt,
- diweddaru eich CV, a
- gweithio ar eich sgiliau cyfweld.
Hyfforddiant
Os oes angen hyfforddiant penodol arnoch ar gyfer math o swydd, gall y tîm eich helpu i ddysgu a datblygu eich sgiliau. Er enghraifft, gallai hyn eich helpu i fod yn gymwys ar gyfer swyddi lle mae angen arnoch:
- Gerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) i weithio ym maes adeiladu, neu
- Cerdyn Diogelwch Personol ar y Rheilfordd (PTS) i weithio ar y rheilffyrdd.
Os ydych chi’n unigolyn sy’n gadael gofal, efallai y bydd mentoriaid ieuenctid y tîm yn gallu gweithio gyda chi i gael mynediad at raglenni fel Cynllun Hyfforddeiaeth Dechrau Disglair.
Sut i gael cymorth
Mae Tîm Ieuenctid y Gwasanaeth i Mewn i Waith yn ymweld â gwahanol ardaloedd o Gaerdydd ar ddiwrnodau penodol, o:
- Hybiau,
- Canolfannau Gwaith, a
- Prosiectau Lletyau â Chymorth.
Darllenwch ragor am y gwasanaeth ar wefan y Gwasanaeth i Mewn i Waith neu ewch i’ch Hyb lleol am ragor o wybodaeth.
Categorised in:
This post was written by cardiffyouths