
Hubiau
Mae 21 Hyb yng Nghaerdydd. Mae’r rhain yn ganolfannau ar gyfer defnydd cymunedol lle gallwch ddod o hyd i ddigwyddiadau, gweithgareddau a chymorth.
Digwyddiadau a gweithgareddau
Gallwch chwilio gwefan yr Hybiau am ddigwyddiadau a gweithgareddau yn seiliedig ar:
- eich oedran,
- amser a lleoliad, a’ch
- hobïau a’ch diddordebau.
Mae rhai Hybiau hefyd yn cynnig clybiau ieuenctid i bobl ifanc 11 i 25 oed, gyda sesiynau ychwanegol yn ystod gwyliau’r ysgol.
Mae gan yr Hybiau hefyd Dîm Gwirfoddolwyr Cymunedol sy’n cefnogi pobl ifanc i ymuno neu sefydlu gweithgareddau gwirfoddol.
Dysgwch beth sy mlaen yn yr Hybiau.
Cymorth
Mae ein Hybiau yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc yng Nghaerdydd ac yn cynnig nifer o wasanaethau cymorth.
Swyddi, hyfforddiant ac addysg
Gall y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith gynnig cymorth wedi ei bersonoli i’ch helpu gyda’r canlynol:
- chwilio am swydd,
- cyfleoedd hyfforddi, a
- dychwelyd i addysg.
Gall ein harbenigwyr hefyd eich atgyfeirio i wasanaethau cyflogadwyedd penodol eraill.
Ewch i wefan y Gwasanaeth i Mewn i Waith am fwy o wybodaeth.
Cyngor ariannol
Gall ein Gwasanaeth Cyngor Ariannol roi gwybodaeth i chi am:
- fudd-daliadau neu grantiau y gallech fod gennych hawl iddyn nhw,
- rheoli arian neu ddyledion, a
- sut mae morgeisi a chredyd yn gweithio.
Ewch i wefan Cyngor Ariannol am fwy o wybodaeth.
Tai
Gallwch gael gwybodaeth am dai gan yr Hybiau. Gall staff hefyd eich helpu gydag ymholiadau sy’n gysylltiedig â thai.
Ewch i wefan Tai Caerdydd i gael gwybod mwy.
Lles
Gall Gwasanaeth Cymorth Lles yr Hybiau gynnig mentora un i un byrdymor i chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod. Gall hyn helpu gyda’r canlynol:
- bod yn fwy actif,
- cwrdd â phobl yn eich cymuned, a
- theimlo’n llai ynysig.
Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig rhaglen gynhwysiant.
Darganfyddwch fwy am y Gwasanaeth Cymorth Lles yn Hybiau.
Categorised in:
This post was written by cardiffyouths